Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau cymdogaeth aml-gydran

Mae gan ymyriadau cymdogaeth aml-gydran gyda’r nod o gynyddu teithio llesol sail dystiolaeth anghyson. 13, 27, 45

 

Ymyrraeth:
Archwiliodd tair astudiaeth (dwy gymedrol, un o ansawdd gwael) ymyriadau cymdogaeth aml-gydran. Roedd dwy yn deillio o’r un ymyrraeth gyda nodau, mesurau canlyniad a hyd gwahanol. Roedd pob astudiaeth yn aml-gydran yn ei natur gyda mynediad hawdd at drafnidiaeth gyhoeddus, ysgolion, cyfleusterau cyhoeddus a hamdden, 2) digon o fannau agored a thir parc, 3) gwyliadwriaeth gynyddol ar strydoedd, mewn parciau , a hybiau gweithgaredd.

Ansawdd y dystiolaeth: 
Roedd y canlyniadau’n anghyson. Dangosodd un astudiaeth gynnydd arwyddocaol mewn teithio llesol i leoliadau gweithgaredd corfforol, ond ni ddangosodd y ddwy astudiaeth oedd yn gysylltiedig unrhyw effaith arwyddocaol ar gynyddu cerdded ar gyfer trafnidiaeth.

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd dwy astudiaeth yn Awstralia ac un yn UDA. Felly, gallai fod cymhwysedd gan y ddwy ymyrraeth i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr o effaith.