Ymyrraeth:
Archwiliodd pum astudiaeth o ansawdd gwael effeithiolrwydd y tair ymyrraeth aml-gydran amgylchedd adeiledig. Archwiliodd yr astudiaethau effaith gwella llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus gyda chysylltiadau cerdded a beicio gwell ar ganlyniadau teithio llesol. Gwerthusodd tair o’r astudiaethau yr un ymyrraeth (llwybr bysiau tywys Caergrawnt: llwybr neilltuol i fysiau yn unig ar drac pwrpasol) ond ar adegau gwahanol a chan ddefnyddio mesurau canlyniad gwahanol. Er bod cydrannau’r ymyriadau’n gwahaniaethu, roedd pob un yn cyfuno gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus (fel ymestyn llinellau trên, rhwydweithiau bws neu safleoedd ‘TRAX’ preswyl newydd) gyda chysylltiadau beicio a cherdded gwell (fel llwybrau cerdded a beicio heb draffig, llwybrau troed gwell, a lonydd beicio newydd).
Ansawdd y dystiolaeth:
Dangosodd y rhan fwyaf o’r astudiaethau effaith o blaid yr ymyrraeth ar gyfer o leiaf un mesur o deithio llesol; fodd bynnag, graddiwyd yr astudiaethau i gyd i fod o ansawdd gwael.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd dwy astudiaeth yn UDA, gyda’r dair oedd yn archwilio llwybr bysiau tywys Caergrawnt yn cael eu cynnal yn y DU. Felly, roedd gan yr ymyriadau gymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr.