Neidio i'r prif gynnwy

Ysmygu yng Nghymru

Ysmygu yng Nghymru

 

Mae smygu yn peri pryder mawr o ran iechyd y cyhoedd ac mae ymysg y prif ffactorau risg ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi eu haddasu gan anabledd (DALY) yng Nghymru.

Mae Ysmygu yng Nghymru yn broffil rhyngweithiol sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ymddygiad, canlyniadau a rhoi’r gorau i smygu yn ôl bwrdd iechyd, awdurdod lleol a phumed amddifadedd. Mae tab trosolwg wedi ei gynnwys hefyd yn cynnwys gwybodaeth lefel uchel a map tystiolaeth, sy’n rhoi mynediad strwythuredig i ffynonellau tystiolaeth ar destunau rhoi’r gorau i smygu, ataliaeth a dadnormaleiddio.

Mae’r proffil wedi cael ei greu i gefnogi datblygiad cynlluniau i gyflawni’r amcanion a nodir yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

 
Archwiliwch y data ymhellach

Cyflwynir gwybodaeth ar draws cyfres o dabiau i’ch galluogi i fynd i’r ardal sydd o ddiddordeb i chi:

  • Trosolwg – yn cynnwys dangosyddion yn dangos cymariaethau mynychder smygu rhyngwladol, canlyniadau iechyd y gellir eu priodoli i smygu a chost tybaco
  • Ymddygiad – yn cynnwys dangosyddion smygu ac e-sigaréts ymysg oedolion a’r glasoed wedi eu dadansoddi yn ôl daearyddiaeth, oed a rhyw.
  • Canlyniadau – yn cynnwys dadansoddiadau awdurdod lleol, bwrdd iechyd a chlefydau ar gyfer:
    • Marwolaethau y gellir eu priodoli i smygu
    • Derbyniadau y gellir eu priodoli i smygu
  • Rhoi’r gorau iddi – yn cynnwys dangosyddion bwriad i roi’r gorau iddi yn ogystal â gwybodaeth rhoi’r gorau i smygu am smygwyr sy’n cael eu trin a’r rheiny sydd wedi rhoi’r gorau iddi wedi eu dilysu o ran carbon monocsid.
  • Ffynonellau data – yn cynnwys gwybodaeth dechnegol am y ffynonellau data allweddol a ddefnyddir yn y proffil.
  • Tystiolaeth – mae’r map yn archwilio tystiolaeth lefel uchel yn ymwneud ag ataliaeth, rhoi’r gorau iddi a dadnormaleiddio.

Mae’r proffil yn cynnwys opsiynau lawrlwytho ac mae pob dangosydd yn cynnwys botwm ‘Dangos/cuddio gwybodaeth dechnegol’ i’ch galluogi i weld mwy o wybodaeth am y dangosydd yn cynnwys cafeatau.

 

 


Adnoddau

 

Download   Ffeithlun Ysmygu yng Nghymru

 

 


Cliciwch yma i weld y cyhoeddiad mewn ffenestr newydd


Cysylltu

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk