Fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhain fel rheol yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac nid yw pawb yn eu cael.
Mae’n bwysig eich bod yn cael eich 2 ddos o frechlyn COVID-19 i roi’r amddiffyniad gorau i chi. Nid yw pob brechlyn COVID-19 yr un peth.
Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn yn y diwrnod cyntaf neu ddau yn cynnwys:
Mae brechlyn AstraZeneca (AZ) yn achosi llai o sgil-effeithiau ar ôl yr ail ddos.
Mae brechlynnau COVID-19 Pfizer a Moderna yn tueddu i achosi mwy o sgil-effeithiau ar ôl yr ail ddos. Mae astudiaethau wedi dangos, os ydych yn cael un o’r brechlynnau hyn ar ôl dos cyntaf o AstraZeneca, mae eich risg o sgil-effeithiau cyffredin yn uwch.
Y cyngor presennol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yw:
Dylai’r rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn AZ a heb ddioddef unrhyw sgil-effeithiau difrifol barhau i gael yr ail ddos i gwblhau’r cwrs. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy’n 39 oed neu’n iau.
Ers mis Mawrth 2021 cafwyd adroddiadau o’r DU ac yn rhyngwladol o gyflwr prin iawn o thrombosis (clotiau gwaed) a thrombosytopenia (platennau isel). Yn y rhai o dan 50 oed, mae tua 1 achos wedi’i nodi am bob 50,000 o ddosau cyntaf o’r brechlyn AZ. Gyda ail ddos y brechlyn, mae llai nag 1 achos am bob miliwn o frechlynnau a roddir i bobl o dan 50 oed, a ni chadarnhawyd yr un o’r achosion ail ddos hyn.
Nid yw’r ffactorau risg sylfaenol wedi’u sefydlu’n llawn eto ar gyfer y cyflwr hwn ac mae adolygiad manwl o achosion tybiedig yn mynd rhagddo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), wedi’i gefnogi gan gyrff iechyd cyhoeddus a grwpiau proffesiynol eraill. Y cyngor gan y grwpiau arbenigol hyn yw, oni bai eich bod wedi cael y clotiau prin hyn mae’n well i chi gwblhau gyda’r brechlyn hwn ar gyfer eich ail ddos.
Argymhellir eich bod yn cael y ddau ddos o’r un brechlyn. Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad yw hyn yn bosibl mae’n well cael ail ddos o frechlyn arall yn hytrach na dim o gwbl.
Rhoi gwybod am achosion tybiedig o glotiau gwaed a phlatennau isel, a sgil-effeithiau eraill
Mae’n bwysig iawn rhoi gwybod i’r MHRA am bob achos tybiedig ar gynllun Cerdyn Melyn COVID-19
Mae taflen ffeithiau clotiau gwaed i gleifion sy’n cael eu dos cyntaf ar gael i’w darllen yma: icc.gig.cymru/gwybodaethigleifion
Mae rhagor o wybodaeth a thaflenni i gleifion yn: icc.gig.cymru/brechlyn-covid-19