Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn Bacillus Calmette-Guérin (BCG) / TB

Mae’r brechlyn BCG (Bacillus Calmette-Guérin) yn gwarchod rhag twbercwlosis, sy’n cael ei adnabod hefyd fel TB.

Ar y dudalen

Cefndir

Mae’r brechlyn BCG (Bacillus Calmette-Guérin) yn gwarchod rhag twbercwlosis, sy’n cael ei adnabod hefyd fel TB.

Mae TB yn haint difrifol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac weithiau rhannau eraill o'r corff, fel yr ymennydd, yr esgyrn, y cymalau a'r arennau.

Mae'r brechlyn BCG yn arbennig o effeithiol wrth warchod babanod a phlant ifanc rhag y ffurfiau difrifol prinnach o TB fel llid yr ymennydd TB (chwydd yn leinin yr ymennydd)

Mewn pobl ifanc ac oedolion mae fel rheol yn effeithio ar yr ysgyfaint, ond gall hefyd effeithio ar y chwarennau lymff, yr ymennydd, y cymalau, yr arennau a'r esgyrn.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn gwella'n llwyr ar ôl triniaeth, ond mae hyn fel rheol yn cymryd sawl mis.

Gwelwch mwy o wybodaeth am TB wrth GIG 111 Cymru - Twbercwlosis (tudalen allanol)

 

Cymhwysedd am y brechlyn

Ers 2005 nid yw'r brechlyn BCG yn cael ei roi bellach fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG.

Dim ond i fabanod hyd at 1 oed, a phlant rhwng un a phum mlwydd oed sydd heb eu brechu ac sy'n fwy tebygol o dreulio amser gyda rhywun sydd â TB, y caiff y brechlyn BCG ei gynnig bellach. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd:

  • wedi’u geni mewn ardaloedd o’r DU lle mae’r cyfraddau TB yn uchel 
  • â rhiant neu daid neu nain a anwyd mewn gwlad lle mae cyfradd uchel o TB gan gynnwys gwledydd yn Ne Ddwyrain Asia, Affrica Is-Sahara a rhai gwledydd yn Nwyrain Ewrop
  • yn byw gyda, neu’n gysylltiadau agos, gyda rhywun sydd â TB heintus             

Darllenwch fwy am bwy all gael y brechlyn BCG (tudalen allanol).

 

Am y brechlyn

Y brechlyn a ddefnyddir yn y DU yw BCG AJV.

Dim ond un dos o’r Brechlyn BCG sydd ei angen.              

Os bydd y brechlyn BCG yn cael ei argymell ar gyfer eich babi, fel arfer caiff ei gynnig yn fuan ar ôl genedigaeth yn yr ysbyty a gellir ei roi ar unrhyw adeg.

Sgîl-effeithiau'r brechlyn BCG

Bydd bron pawb sy’n cael brechlyn BCG yn datblygu pothell wedi chwyddo yn safle’r pigiad yn syth wedyn. Mae hyn yn normal ac yn dangos bod y pigiad wedi'i roi'n gywir.

O fewn dwy i chwe wythnos i gael y pigiad bydd smotyn bach yn ymddangos. Gall fod yn eithaf poenus am rai dyddiau, ond dylai wella'n raddol os na fyddwch chi'n ei orchuddio. Efallai y bydd yn gadael craith fechan. Mae hyn yn normal. Yn achlysurol, gall eich plentyn ddatblygu briw bas lle cafodd y pigiad. Os bydd hylif yn dod ohono a bod angen ei orchuddio, defnyddiwch ddresin sych – dim plaster - nes bod cramen yn ffurfio. Gall y briw yma gymryd sawl mis i wella.

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin, anghyffredin a phrin, darllenwch:

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn MenB neu'r afiechydon y mae'n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Mae gan yr elusen TB Alert mwy o wybodaeth am TB.