Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae'r newid hwn yn ei olygu i blant sy'n cael eu brechiad HPV yn yr ysgol?

Os bydd plentyn ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol ym mis Medi 2023, bydd yn cael cynnig un dos o'r brechiad HPV. Bydd timau nyrsio ysgolion yn cyflwyno'r rhaglen frechu rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2024, oherwydd dyma'r adeg o'r flwyddyn pan roddir brechiadau HPV mewn ysgolion uwchradd.

Os bydd plentyn ym mlwyddyn 9 yn yr ysgol ym mis Medi 2023 a'i fod eisoes wedi cael un dos o'r brechiad HPV, nid oes angen iddo gael ail ddos bellach.

Os yw plentyn neu berson ifanc ym mlynyddoedd ysgol 9 i 13 ac nid yw wedi cael unrhyw ddosau o'r brechiad HPV eto dim ond un dos y bydd angen iddo ei gael.

(Noder: Dylai plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n imiwnoataliedig (sydd â system imiwnedd wannach) neu'n HIV positif gael tri dos o'r brechiad HPV.)