Neidio i'r prif gynnwy

A fydd y newid i un dos yn golygu y bydd pobl ifanc sy'n colli eu hapwyntiad yn cael llai o siawns i gael y brechiad HPV ar ddyddiad arall?

Gall plant a phobl ifanc sy'n colli eu brechiad HPV yn yr ysgol ei gael o hyd. Gallant naill ai drefnu apwyntiad gyda'u nyrs practis meddyg teulu neu byddant yn cael y cyfle i gael y brechiad yn yr ysgol (pan fydd y nyrsys ysgol yn bresennol) hyd nes iddynt orffen blwyddyn 11. Os bydd person ifanc yn gadael yr ysgol ac nad yw wedi cael y brechiad HPV, gall ei gael o hyd yn ei feddygfa hyd nes ei ben-blwydd yn 25 oed (ar gyfer bechgyn, mae hyn yn berthnasol dim ond i'r rhai a anwyd ar ôl 1 Medi 2006).

Mae'r newid hwn i un dos hefyd yn golygu y bydd nyrsys ysgol yn gallu rhoi'r cwrs llawn o'r brechiad HPV mewn un apwyntiad, yn hytrach na dau ddos dros ddau apwyntiad ar wahân. Bydd hefyd yn haws i fyfyrwyr sy'n colli eu hapwyntiad i ddal i fyny, gan y bydd angen iddynt ddal i fyny ag un apwyntiad yn unig.

Mae newid i un dos yn golygu y gall y GIG sicrhau bod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn cael gwybod am fanteision y brechiad HPV ac yn cael eu hannog i gael eu brechu. Bydd cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cael un dos o'r brechiad HPV yn helpu i achub mwy o fywydau.