Neidio i'r prif gynnwy

MenACWY - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Mae afiechyd meningococol yn digwydd fel arfer fel llid yr ymennydd neu septisemia (gwenwyn yn y gwaed). 

Ar y dudalen

 

Cefndir

Mae afiechyd meningococol yn cael ei achosi gan haint ymledol gyda'r bacteriwm Neisseria meningitidis, sy’n cael ei alw hefyd yn meningococws. Mae 12 grŵp capsiwlaidd wedi’u nodi a grwpiau B, C, W ac Y oedd y rhai mwyaf cyffredin yn y DU yn hanesyddol. Ers cyflwyno’r rhaglen frechu MenC reolaidd, mae achosion o afiechyd meningococaidd ymledol yn y DU oherwydd grŵp capsiwlaidd C wedi lleihau’n ddramatig, a grŵp capsiwlaidd B sy’n cyfrif am y mwyafrif o achosion bellach.

Mae afiechyd meningococol yn cael ei drosglwyddo gan aerosolau anadlol, dafnau neu drwy gysylltiad uniongyrchol â hylifau anadlol rhywun sy'n cario'r bacteria. Mae'r cyfnod deor rhwng 2 a 7 diwrnod ac mae ymddangosiad yr afiechyd yn amrywio o ddechrau’n ddifrifol a sydyn gyda nodweddion acíwt a llethol, i ymddangosiad llechwraidd gyda symptomau prodromal ysgafn.

Y brechlyn

Y brechlynnau a argymhellir ar gyfer rhaglen frechu MenACWY yw brechlynnau cyfun MenACWY Menveo neu Nimenrix. Bydd y 2 frechlyn yma’n parhau i gynnig gwarchodaeth rhag grŵp meningococol capsiwlaidd C, tra'n cynnig gwarchodaeth ychwanegol rhag grwpiau A, W ac Y. Mae'r ddau frechlyn wedi'u trwyddedu i'w defnyddio gyda phobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion a gellir eu rhoi'n ddiogel gyda brechlynnau rheolaidd eraill i bobl ifanc yn eu harddegau.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. meningococol).

 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Brechlyn MenACWY ar gyfer y rhai rhwng 18 a hyd at 25 oed (2018)

Brechlyn MenACWY i fyfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf (2018)

Y brechlyn MenACWY cyfun (WHC/2015/037) | LLYW.CYMRU

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Meningococal – y llyfr gwyrdd, pennod 22

Rhaglen brechu meningococcal ACWY (MenACWY) - GOV.UK

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.

Mwy o adnoddau a gwybodaeth clinigol

 

Data a goruchwyliaeth