Neidio i'r prif gynnwy

Eryr - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae'r eryr (herpes zoster) yn cael ei achosi gan ailweithredu feirws varicella zoster (VZV) cudd, fel arfer ddegawdau ar ôl yr haint cychwynnol. Mae haint cychwynnol VZV fel arfer yn digwydd yn ystod plentyndod ac mae'n achosi brech yr ieir (varicella). 

Yn dilyn haint cychwynnol VZV, mae'r feirws yn mynd i mewn i'r nerfau synhwyraidd ac yn teithio ar hyd y nerf i ganglia'r nerfau dorsal synhwyraidd ac yn sefydlu haint cudd parhaol. Mae ailweithredu'r feirws cudd yn achosi brech pothelliad lleol a allai fod yn gysylltiedig â phoen lleol. Mae hylif y pothelli yn heintus a gall achosi brech yr ieir mewn unigolion heb imiwnedd. 

Efallai y dilynir cam acíwt poen yr eryr gan gyfnod hir o niwralgia ôl-herpetig (PHN), sydd hefyd yn fwy cyffredin ymhlith yr henoed. 

Bydd tua 1 o bob 5 o bobl sydd wedi cael brech yr ieir yn datblygu'r eryr.  Gall yr eryr ddigwydd ar unrhyw oedran a gall ddigwydd mwy nag unwaith. Mae'r risg yn cynyddu gydag oedran ac amcangyfrifir bod y risg gydol oes yn un o bob pedwar. Mae'r risg yn cynyddu ymhlith y rhai sydd â chyflyrau penodol. 

Bob blwyddyn, mae tua 750 o achosion o'r eryr yn cael diagnosis gan feddygon teulu fesul 100,000 o bobl 65 oed a throsodd yng Nghymru (Cafwyd y data o Audit+ (2023)).   

Yng Nghymru, mae tua 60 o achosion o PHN yn cael diagnosis gan feddygon teulu fesul 100,000 o bobl 65 oed a throsodd bob blwyddyn (Cafwyd y data o Audit+ (2023)).  

Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, cafodd 90 o bobl 65 oed a throsodd eu derbyn i'r ysbyty gyda'r eryr (Cafwyd y data o Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW)). 

Amcangyfrifir bod tua un o bob 1,000 o achosion o'r eryr mewn oedolion dros 70 oed yn arwain at farwolaeth, ond oherwydd natur y boblogaeth a'r risg o gydafiacheddau efallai na fydd modd priodoli rhai marwolaethau a gofnodwyd fel yr eryr yn uniongyrchol i'r clefyd (UKHSA (2023) Immunisation against infectious disease. Pennod 28a Yr Eryr [ar-lein]). 

Ar 01 Medi 2013 cafodd rhaglen brechu yn erbyn yr eryr i bobl 70-79 oed ei chyflwyno yng Nghymru. Roedd y cyflwyniad fesul cam, gyda'r rhai 70 a 79 oed yn gymwys yn y flwyddyn gyntaf.  O 01 Ebrill 2019 gall unigolion sy'n cyrraedd eu pen-blwydd yn 70 oed ac nad ydynt wedi cael brechlyn yr eryr yn flaenorol gael brechlyn yr eryr am ddim. Maent yn parhau'n gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed. 

Newidiadau allweddol i raglen frechu rhag yr eryr GIG Cymru o 01 Medi 2023: 

Ym mis Chwefror 2019, yn seiliedig ar fodelu effaith a chost-effeithiolrwydd, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylai'r rhaglen imiwneiddio genedlaethol rhag yr eryr gael ei newid i gynnig Shingrix®: 

  • fel mater o drefn yn 60 oed (drwy ddull fesul cam) 

  • i unigolion ag imiwnedd gwan (sy'n ddifrifol imiwnoataliedig) 50 oed a throsodd 

Yn ogystal, argymhellodd y JCVI ddal i fyny ar gyfer y rhai 60 i 70 oed y dylid ei gweithredu mewn dau gam, gan ddechrau gyda brechu yn 65 a 70 oed (Cam 1), ac yna symud i frechu'r rhai 60 a 65 oed (Cam 2), ac yn dilyn hynny gallai'r brechu gael ei gynnig fel mater o drefn yn 60 oed. Roedd y cyngor yn seiliedig ar effeithiolrwydd uchel, diogelwch ac imiwnogenedd Shingrix® a nodwyd mewn treialon clinigol.  

Crynodeb o newidiadau i'r rhaglen frechu rhag yr eryr o 01 Medi 2023: 

Camau gweithredu 

Cyfnod cyflwyno 

Yn gymwys i gael y dos cyntaf 

Cam Un (5 mlynedd o hyd) 

1 Medi 2023 tan 31 Awst 2028 

Dylai'r rhai sy'n cyrraedd 65 oed neu 70 oed yn ystod y cyfnod hwn gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 65 oed neu 70 oed* 

Cam Dau (5 mlynedd o hyd) 

1 Medi 2028 tan 31 Awst 2033 

Dylai'r rhai sy'n cyrraedd 60 oed neu 65 oed yn ystod y cyfnod hwn gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 60 oed neu 65 oed* 

Cynnig rheolaidd parhaus 

1 Medi 2033 ymlaen 

Dylai'r rhai sy'n cael eu pen-blwydd yn 60 oed gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 60 oed* 

*mae'r rhai a ddaeth yn gymwys ac a gollodd allan yn parhau'n gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed. 

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod Shingrix® yn rhoi diogelwch rhag yr eryr sy'n hwy o lawer na Zostavax®. Erbyn hyn mae digon o gyflenwad o Shingrix® i weithredu argymhellion y JCVI. 

 

Cam 1 (01 Medi 2023 tan 31 Awst 2028): 

Mae'r tabl isod yn crynhoi'r unigolion sy'n gymwys i gael brechlyn yr eryr o 01 Medi 2023: 

Oedran yr unigolyn ar neu ar ôl 01 Medi bob blwyddyn o 2023 tan 2028 

A yw'r unigolyn yn ddifrifol imiwnoataliedig? 

Pryd y bydd yn cael y brechlyn Shingrix®? 

Dos 1af 

2il ddos 

Wedi cael pen-blwydd yn 65 oed neu 70 oed^ 

(ar/ar ôl 01 Medi bob blwyddyn rhwng 2023 a 2028) 

Nac ydy 

65 oed   

 

70 oed 

 

Rhwng 6 a 12 mis yn dilyn y dos cyntaf 
 

71 – 79 oed nad yw wedi cael brechlyn yr eryr 

(Noder mae unigolion 70-79 oed cyn 01 Medi 2023 yn gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed) 

Nac ydy 

Parhewch i ddefnyddio Zostavax® (un dos) tra bydd stociau'n para 

Pan fydd stociau Zostavax® wedi disbyddu defnyddiwch Shingrix®.  Dylid rhoi'r ail ddos 6-12 mis ar ôl y dos cyntaf^^ 

50 oed a throsodd (nid oes terfyn oedran uchaf)^^^ 

Ydy^^^^ 

Rhoddir ar neu ar ôl ei ben-blwydd yn 50 oed 

Rhwng 8 wythnos a 6 mis yn dilyn y dos cyntaf 

^ Mewn achosion lle mae unigolyn eisoes wedi cyrraedd neu basio 65 oed ond nid yw'n 80 oed eto, ar gyfer cam un gall practisau cyffredinol ddarparu brechu manteisgar os yw'n weithredol bosibl 

^^ Pan fo unigolyn wedi cyrraedd 80 oed yn dilyn ei ddos cyntaf o Shingrix®, dylid darparu ail ddos cyn pen-blwydd yr unigolyn yn 81 oed er mwyn cwblhau'r cwrs 

^^^ Dylai dal i fyny'r grŵp imiwnoataliedig (50 oed a throsodd) gael ei flaenoriaethu yn y 12 mis cyntaf (Medi 2023 – Medi 2024) o’r newid i’r rhaglen 

^^^^ Mae crynodeb o'r unigolion y dylid cynnig Shingrix® iddynt yn y grŵp oedran hwn yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 28a Yr Eryr (Blwch)

 

Mae'r tabl uchod yn crynhoi'r unigolion sy'n gymwys i gael brechlyn yr eryr o 01 Medi 2023, sef: 

  • pawb sy'n ddifrifol imiwnoataliedig (cymhwystra fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 28a Yr Eryr) o 50 oed 

    • dylid rhoi'r ail ddos o Shingrix® rhwng wyth wythnos a 6 mis ar ôl y dos cyntaf 

    • dylai'r broses o gyflwyno i'r holl unigolion ag imiwnedd gwan sy'n 50 oed a throsodd gael ei chwblhau erbyn mis Medi 2024 

  • unigolion imiwnogymwys: 

    • dylid cynnig Shingrix® i'r rhai sy'n cael eu pen-blwydd yn 65 oed a 70 oed ar neu ar ôl 01 Medi 2023**  

    • dylid rhoi'r ail ddos o Shingrix® 6 i 12 mis ar ôl y dos cyntaf ar gyfer y grŵp hwn 

    • bydd Zostavax® (un dos) yn cael ei gynnig i unigolion rhwng 70 a 79 oed a oedd yn gymwys ar gyfer y rhaglen frechu cyn 01 Medi 2023. Pan fydd yr holl stociau o Zostavax® wedi'u disbyddu, gellir cynnig Shingrix® i'r unigolion hyn os nad ydynt wedi cael brechlyn yr eryr yn flaenorol. (Nid yw Zostavax® yn cael ei weithgynhyrchu bellach) Bydd Shingrix® yn disodli Zostavax® ar gyfer rhaglen gyfan yr eryr.) 

**Mae'r holl unigolion imiwnogymwys yn parhau'n gymwys ar gyfer brechlyn yr eryr tan eu pen-blwydd yn 80 oed.  

Pan fo unigolyn wedi cyrraedd 80 oed yn dilyn ei ddos cyntaf o Shingrix®, dylid darparu ail ddos cyn pen-blwydd yr unigolyn yn 81 oed er mwyn cwblhau'r cwrs. 

Ar gyfer y garfan ag imiwnedd gwan:  

  • bydd yr oedran cymwys cynharaf yn symud i lawr i 50 oed ac o 01 Medi, bydd y garfan gymwys yn cynnwys pawb 50 oed a throsodd (hynny yw, ar gyfer y garfan ag imiwnedd gwan, nid oes uchafswm terfyn oedran.)  

  • dylid rhoi'r ail ddos rhwng wyth wythnos a 6 mis ar ôl y dos cyntaf 

  • dylai'r broses o gyflwyno i'r holl unigolion ag imiwnedd gwan sy'n 50 oed a throsodd gael ei chwblhau erbyn mis Medi 2024 

 

Cam 2 (01 Medi 2028 tan 31 Awst 2033):  

Yn ystod Cam 2 bydd Shingrix® yn cael ei gynnig i'r rhai sy'n cael eu pen-blwydd yn 60 oed a 65 oed. Bydd Shingrix® yn parhau i gael ei gynnig i unigolion ag imiwnedd gwan (sy'n ddifrifol imiwnoataliedig) o 50 oed (dylai unigolion ag imiwnedd gwan sydd newydd gael diagnosis a heb eu brechu ac sydd eisoes dros 50 oed gael eu brechu o fewn 12 wythnos i'r diagnosis o imiwnedd gwan). 

Ar ôl hynny, o 01 Medi 2033, bydd Shingrix® yn cael ei gynnig fel mater o drefn i'r holl unigolion imiwnogymwys yn 60 oed ac i unigolion cymwys sydd ag imiwnedd gwan (sy'n ddifrifol imiwnoataliedig) 50 oed a throsodd. 

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra ar gyfer brechlyn yr eryr o 01 Medi 2023 ar gael yn yr adran Canllawiau.  

 

Y brechlyn 

Mae dau frechlyn ar gael: 

  • Mae Zostavax yn frechlyn byw 

  • Mae Shingrix® yn frechlyn nad yw'n fyw, ac mae ar gael i unigolion lle ceir gwrtharwydd ar gyfer Zostavax® oherwydd bod ganddynt imiwnedd gwan a’r rhai newydd sy'n gymwys ar ôl 01 Medi 2023 

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 28a yr Eryr.  Bydd dwy bennod ar yr eryr yn y Llyfr Gwyrdd yn cael eu defnyddio cyn 01 Medi 2023: 

  • y bennod bresennol (dyddiedig 23 Awst 2021) sy'n cynnwys gwybodaeth am Zostavax. Bydd y bennod hon yn cael ei dileu pan na fydd Zostavax bellach ar gael i'w archebu drwy ImmForm  

  • y bennod wedi'i diweddaru (dyddiedig 17 Gorffennaf 2023) sy'n cynnwys gwybodaeth am raglen brechlyn yr eryr o 1 Medi 2023 ymlaen 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch 

Mae'r canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 28a Yr eryr yn disodli'r SmPC. 

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a brechiadau nad ydynt yn rheolaidd. 

 

Canllawiau

Gellir dod o hyd i argymhellion am y rhaglen frechu gan y JCVI a pholisi Llywodraeth Cymru yn y dolenni isod. 

Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau'r JCVI; chwiliwch am e.e. shingles) 

 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

 

Newidiadau i frechiadau yn erbyn yr eryr (o fis Medi 2023) (WHC/2023/024) | LLYW.CYMRU [Ychwanegwyd ym mis Awst 2023] 

Cyflwyno Shingrix® ar gyfer unigolion ag imiwnedd gwan o fis Medi 2021 (WHC/2021/021) | LLYW.CYMRU 

Newidiadau i'r rhaglen brechu rhag yr eryr (WHC/2019/008) | LLYW.CYMRU

 

 

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau

Ceir cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy'r dudalen E-ddysgu

Ceir rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddiant

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Pecyn adnoddau rhaglen imiwneiddio rhag yr eryr ar gyfer Ymarferyddion Gofal Iechyd

Yr eryr (herpes zoster): y llyfr gwyrdd, pennod 28a - GOV.UK

Brechiad yr eryr: canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol - GOV.UK

Shingles vaccination: guidance for healthcare professionals - GOV.UK 

Cymhorthyn Gweledol Brechu rhag yr Eryr ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol  [Ychwanegwyd ym mis Awst 2023, yn ddilys o 1 Medi 2023] 

Offeryn Sgrinio Gwrtharwyddion ar gyfer Brechlyn yr Eryr - Iechyd Cyhoeddus yr Alban 

Templed gwahoddiad yr eryr (dim dyddiad ar gyfer apwyntiad) Dwyieithog f2 (Mai 2023) 

Templed gwahoddiad yr eryr (dyddiad ar gyfer apwyntiad) Dwyieithog f2 (Mai 2023) 

 

 

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs)

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen   Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru 

 

Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol

 

Adnoddau eraill

 

Y Llyfr Gwyrdd Pennod 34: Varicella 

Diweddariad Brechlyn: rhifyn 340, Gorffennaf 2023, rhifyn arbennig ar yr eryr - GOV.UK (www.gov.uk) [Ychwanegwyd ym mis Medi 2023] Noder mae'r diweddariad brechlyn hwn yn berthnasol i Loegr  

Brechiad yr eryr – ydych chi'n gymwys? Poster A3 Dwyieithog [Yn ddilys o 1 Medi 2023] 

 

Data a gwyliadwriaeth