Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i deithwyr

Trosolwg

Clefyd feirysol yw’r coronafeirws (Covid-19) ac mae’n gallu achosi symptomau anadlu fel:

  • peswch
  • twymyn
  • trafferth anadlu

Yn ôl y dystiolaeth ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai ysgafn yw’r rhan fwyaf o achosion.

Yn gyffredinol, gall y coronafeirws achosi symptomau mwy difrifol mewn pobl sydd â systemau imiwnedd gwan, pobl hŷn, a phobl sydd â chyflyrau hirdymor fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint. 

Lefel y risg

Yn sgil datganiad Sefydliad Iechyd y Byd bod hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd o bryder rhyngwladol, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi codi’r risg i’r DU o isel i gymedrol.

Teithwyr sy’n dychwelyd

Teithwyr sy'n dychwelyd

Arhoswch y tu fewn ac osgoi cyswllt â phobl eraill os ydych wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau:

  • Iran
  • Talaith Hubei yn Tsieina
  • Parthau gofal arbennig yn Ne Korea (Daegu, Cheongdo, Gyeongsan)

Arhoswch y tu fewn ac osgoi cyswllt â phobl eraill os ydych chi wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau:

  • Yr Eidal (ers 09 Mawrth)

Arhoswch y tu fewn ac osgoi cyswllt â phobl eraill os ydych chi wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol yn ystod y 14 diwrnod diwethaf a bod gennych beswch, tymheredd uchel neu unrhyw anhawster anadlu, hyd yn oed os yw'ch symptomau'n ysgafn:

  • Tsieina y tu allan i dalaith Hubei
  • De Korea y tu allan i'r parthau gofal arbennig
  • Cambodia
  • Hong Kong
  • Japan
  • Laos
  • Macau
  • Malaysia
  • Myanmar
  • Singapore
  • Taiwan
  • Gwlad Thai
  • Fietnam

Defnyddiwch y gwasanaeth 111 coronafeirws ar-lein i ddarganfod gwybodaeth am beth i'w wneud nesaf.

Peidiwch â mynd i feddygfa meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.

Yn yr Alban ffoniwch eich meddyg teulu neu GIG 24 ar 111 y tu allan i oriau gweithio.

Yng Nghymru ffoniwch 111.

Mae'r canllawiau yma yn seiliedig ar argymhellion Prif Swyddogion Meddygol y DU. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u nodi oherwydd maint y teithio awyr o ardaloedd yr effeithir, dealltwriaeth o lwybrau teithio eraill a hefyd nifer yr achosion yr adroddwyd. Bydd y rhestr hon yn cael ei hadolygu.

Ar gyfer ardaloedd sydd â theithiau awyren uniongyrchol i'r DU rydym yn cynnal monitro gwell. Bydd y teithwyr yn cael ei hysbysu sut i gyfathrebu unrhyw symptomau y maent yn datblygu yn ystod yr hediad, ar adeg cyrraedd, neu ar ôl gadael y maes awyr.

Darllenwch fwy am yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn cael eich gofyn i hunan-ynysu.

Cyngor teithio

Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (Foreign Commonwealth Office) yn cynghori yn erbyn pob math o deithio i'r Eidal os nad yw'n hanfodol, oherwydd achos parhaus o coronafeirws (Covid-19) ac yn unol â gwahanol reolaethau a chyfyngiadau a osodwyd gan awdurdodau'r Eidal ar 9 Mawrth.

Os ydych yn bwriadu teithio, edrychwch ar y cyngor teithio ar GOV.UK.

Edrychwch ar fapiau o’r ardaloedd penodol ar GOV.UK.

Ymwelwyr tramor â Chymru

Caiff ymwelwyr tramor â Chymru eu heithrio o ffioedd y GIG ar gyfer diagnosis o’r Coronafeirws Newydd ac ar gyfer ei drin (2019-nCoV), ni waeth beth fo’u statws preswylio.

Cynllun Gweithredu y DU

Mae Llywodraeth Cymru a gwledydd eraill y DU wedi cyd-gyhoeddi Cynllun Gweithredu yn amlinellu ein dull gweithredu ar y cyd mewn perthynas â’r achosion parhaus o goronafeirws (COVID-19).

Rhagor o wybodaeth

Sut mae’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo a ffeithiau eraill am coronafeirws yma.

Sut mae’r ymateb i’r coronafeirws yn cael ei reoli ar draws y DU ar GOV.UK.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar deithio ar gael o: