Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r mwyafrif o bobl yng Nghymru yn teimlo'n gyfforddus yn siarad am sgrinio coluddion

Cyhoeddwyd: 4 Hydref 2023

Mae'r canlyniadau diweddaraf arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos y byddai tua 8 o bob 10 o bobl yn gyfforddus yn siarad â ffrindiau a theulu, ac â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am sgrinio'r coluddyn (78 y cant ac 85 y cant, yn y drefn honno).  

Daw'r canfyddiadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ehangu o ran cymhwysedd ar gyfer Sgrinio Coluddion, gyda'r rhai 51-54 oed yn cael eu gwahodd am y tro cyntaf o fis Hydref 2023.  

Gofynnwyd i gyfranogwyr yr arolwg a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno ag amrywiaeth o ddatganiadau am sgrinio coluddion. Roedd naw o bob 10 o bobl yn cytuno y byddent yn cwblhau ac yn dychwelyd pecyn profi sgrinio'r coluddyn drwy'r post pe byddent yn derbyn un (90 y cant) a nododd wyth o bob 10 o bobl na fyddent yn teimlo embaras o ran gwneud y prawf (80 y cant). 

Nid oedd dros hanner y bobl (55 y cant) yn pryderu y byddai'r prawf yn fudr neu'n anodd ei drin ac roeddent yn hyderus y gallent gyflawni'r prawf yn gywir (53 y cant). 

Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio ymgyrch sy'n targedu pobl 51-74 oed i'w hannog i fanteisio ar y cynnig sgrinio. 

Drwy ddileu unrhyw stigma ynghylch y sgwrs a darparu adnoddau a chymorth, ein nod yw achub bywydau drwy ganfod canser y coluddyn pan mae'n rhy fach i achosi symptomau, gan roi'r cyfle gorau o driniaeth ar gam cynnar.   

Meddai Graham Brown, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae'r canlyniadau hyn yn galonogol iawn ac yn dangos bod sgyrsiau am sgrinio'r coluddyn yn dod yn rhan o fywyd bob dydd.  Mae'n amlwg bod ymatebwyr yr arolwg yn teimlo'n gadarnhaol am sgrinio coluddion wrth i ni barhau i wella'r gwasanaeth i gynnwys pawb 51-74 oed.  

“Ond rydym yn gwybod nad yw bwriadau bob amser yn troi'n weithredoedd, ac ni fydd pawb sy'n bwriadu dychwelyd eu prawf yn gwneud hynny.  Peidiwch ag anwybyddu eich pecyn prawf am ddim pan fyddwch yn ei dderbyn – gallai achub eich bywyd.  Mae canfod yn gynnar drwy ein rhaglen sgrinio yn hanfodol bwysig oherwydd bydd naw o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar.  

“Gall sgyrsiau achub bywydau. Mae siarad â ffrindiau a theulu am sgrinio canser y coluddyn nid yn unig yn chwalu tabŵs ond gall hefyd ysbrydoli'r rhai rydych yn poeni amdanynt i weithredu. Drwy ddechrau'r sgyrsiau hyn, byddwch yn dod yn hyrwyddwr ar gyfer canfod yn gynnar, gan gefnogi bywydau iachach, hirach i bawb o'ch cwmpas.” 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:  

“Mae'n wych gweld bod cynifer o bobl yn gadarnhaol ynghylch sgrinio canser y coluddyn. Mae sgrinio yn chwarae rhan hanfodol wrth ganfod canser ar gam cynnar. Gall dechrau'r driniaeth yn gynnar wella cyfraddau goroesi yn sylweddol.  

“Rydym wedi ehangu mynediad i sgrinio canser y coluddyn i bobl 55-57 oed. Bydd y cam nesaf hwn yn ehangu sgrinio i bobl 51 i 54 oed – byddant yn derbyn eu pecyn prawf sgrinio'r coluddyn gartref yn awtomatig drwy'r post. Byddwn yn gostwng oedran sgrinio canser y coluddyn i 50 erbyn mis Hydref 2024. 

“Byddwn yn annog pawb i gymryd amser i wneud y prawf oherwydd gallai helpu i achub eich bywyd.” 

Er bod naw o bob 10 o bobl yn cytuno y byddent yn cwblhau ac yn dychwelyd pecyn prawf sgrinio'r coluddyn, mae ffigurau Sgrinio Coluddion Cymru yn dangos bod 65 y cant o'r bobl a wahoddwyd i gymryd y prawf yn ei gwblhau a'i ddychwelyd. Gellid esbonio'r gwahaniaeth hwn yn rhannol gan y theori ‘bwlch bwriad-gweithredu’ , pan nad yw gwerthoedd, agweddau, nac ymddygiad pobl yn cyfateb i'w gweithredoedd. 

Ymatebodd 1,113 o aelodau panel i'r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Awst 2023 a ofynnodd i drigolion Cymru (16 oed a throsodd) am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys: Adrannau achosion brys, ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, costau byw, iechyd deintyddol a rheoli pwysau ôl-enedigol. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r sgwrs Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma