Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu eich cynllunio at y dyfodol gydag offeryn hwylus

Bydd canllaw newydd a hwylus yn helpu cyrff cyhoeddus i feddwl a chynllunio'n well ar gyfer yr hirdymor, drwy gadw gweledigaeth glir ac ystyried tueddiadau'r dyfodol.

Mae'r Pecyn Cymorth Tri Gorwel wedi'i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i helpu cyrff cyhoeddus i osgoi gwneud penderfyniadau nad ydynt yn sefyll prawf amser. Mae'n seiliedig ar fodel a ddatblygwyd gan Bill Sharpe a'r Fforwm Dyfodol Rhyngwladol. 

Gall y pecyn cymorth helpu unrhyw un sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau sydd angen ystyried y dyfodol, a chenedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys cyrff cyhoeddus sydd â dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Meddai Dr Louisa Petchey, Uwch-swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Nid yw bodau dynol yn dda am feddwl yn yr hirdymor, ac mae ein hymennydd wedi'i weirio'n galed i ganolbwyntio ar bryderon tymor byr neu feddwl y bydd y dyfodol yn debyg i'r gorffennol agos.

“Mae'r pecyn cymorth newydd hwn yn rhannu ffordd syml â chyrff cyhoeddus yng Nghymru er mwyn i ni allu creu lle i'n hymennydd feddwl yn y tymor hwy. Mae'r model yn rhoi fframwaith i ni feddwl ynghylch lle rydym ni nawr, lle rydym yn ceisio cyrraedd a beth yw'r ffordd orau o gyrraedd y weledigaeth honno ar gyfer y dyfodol.

“Drwy ddefnyddio'r model hwn, gallwn weld ychydig yn gliriach pa syniadau sy'n mynd i drawsnewid y ffordd rydym yn gwneud pethau nawr er mwyn creu dyfodol gwell a pha syniadau sydd ond yn ffordd newydd o becynnu dulliau presennol nad ydynt yn addas at y diben mwyach – fel y gwahaniaeth rhwng y minidisc a'r iPod pan fyddwn yn meddwl am ein taith o'r peiriant CD i ffrydio cerddoriaeth ddigidol yn fyw.”

Mae'r Pecyn Cymorth Tri Gorwel wedi'i ddatblygu yn dilyn argymhellion yn yr adroddiad Dyfodol i Gymru bod angen i Gymru wneud mwy i gynllunio ar gyfer heriau hirdymor fel newid yn yr hinsawdd ac awtomatiaeth.

Gellir dod o hyd i'r pecyn cymorth drwy'r ddolen ganlynol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar 029 2167 7400.