Neidio i'r prif gynnwy

Dealltwriaeth newydd o wasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG yng Nghymru.

Cyhoeddwyd: 20 Mehefin 2023

Mae astudiaeth arloesol gan ymchwilwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi casglu dealltwriaeth werthfawr o wasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG sydd ar gael i geiswyr noddfa yng Nghymru. Defnyddiodd yr astudiaeth ymchwilwyr cymheiriaid â phrofiad bywyd o geisio noddfa, i siarad yn uniongyrchol â cheiswyr lloches a ffoaduriaid i ddeall eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG yn well. 

Mae'r ymchwilwyr o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â sefydliadau'r trydydd sector wedi darparu tystiolaeth newydd ar ansawdd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd mewn gofal iechyd sylfaenol a brys yng Nghymru, gan gynnwys safbwyntiau ceiswyr lloches, ffoaduriaid a darparwyr gofal iechyd.  Clywodd yn uniongyrchol am bwysigrwydd mynediad at wasanaethau cyfieithu ar y pryd da ym maes iechyd a'r sy'n digwydd os nad ydynt ar gael.

Mae gan geiswyr noddfa yng Nghymru hawl i dderbyn gofal iechyd y GIG, gan gynnwys gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i ddiwallu unrhyw anghenion ieithyddol a allai fod ganddynt. Canfu'r ymchwil fod eu hangen am gyfieithu ar y pryd yn gymhleth, gyda rhai nad oes ei angen arnynt neu'n dewis peidio â'i gael, a nododd eraill heriau o ran cael mynediad ato yn ystod gofal y GIG, yn enwedig mewn sefyllfaoedd heb eu cynllunio. 

Ar y cyfan nododd cleifion lefelau uchel o foddhad â'r gwasanaethau cyfieithu ar y pryd pan oedd modd iddynt gael mynediad atynt, ond roedd achosion lle nad oedd y gwasanaeth yn briodol neu heb ei deilwra i'w hanghenion penodol. Weithiau, yn ystod ymgyngoriadau meddygol, cafodd y cyfieithu ar y pryd ei ddarparu gan aelodau o'r teulu neu ffrindiau sy'n gallu gwneud preifatrwydd neu gyfrinachedd yn anodd. Pan oedd cyfieithydd ar y pryd proffesiynol ar gael, yn aml nid oedd gan y ceiswyr noddfa ddewis o ran rhywedd neu dafodiaith eu cyfieithydd ar y pryd ac ni chawsant gynnig yr un cyfieithydd ar y pryd ar gyfer ymweliadau iechyd dilynol yn ystod cwrs o driniaeth.

O safbwynt staff y GIG, nid oedd y broses o drefnu cyfieithydd ar y pryd bob amser yn glir, ond gwnaethant gydnabod ei fod yn gymorth pwysig i gyfathrebu ac yn cynorthwyo ag ymgyngoriadau gofal iechyd pan oedd ar gael. 

Edrychodd yr ymchwilwyr hefyd ar gomisiynu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd ar draws y DU. Gwnaethant ganfod fod pennu safonau ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn helpu i sicrhau ansawdd y gwasanaeth. Ymhlith y meysydd ar gyfer gwella roedd gwella hyfforddiant cyfieithwyr ar y pryd a sicrhau y gallai cleifion a staff roi adborth ar y gwasanaeth. 
Mae'r astudiaeth yn argymell nifer o gamau gweithredu i'r rhai sy'n ymwneud â threfnu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn y GIG yng Nghymru a'r DU, gan argymell gwerthuso gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar draws y DU yn y dyfodol. Roedd profiad y rhai yn y trydydd sector o gynorthwyo ceiswyr noddfa yn amhrisiadwy.