Neidio i'r prif gynnwy

Hyb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Mae’r Hyb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol a Chymunedol (Hyb Gofal Sylfaenol) yn rhan o Gyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant Is-adran Gofal Sylfaenol.

Sefydlwyd yr Hyb Gofal Sylfaenol yn 2016 i ‘gydlynu cymorth i fyrddau iechyd a chlystyrau, yn genedlaethol, er mwyn cyflawni cynllun cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru (2015-2018) a hwyluso’r broses o gyflawni amrywiaeth o brosiectau mewn ffordd gydgysylltiedig’.

Parheir â’r dyheadau sydd yn y cynllun hwnnw drwy’r Rhaglen Strategol Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol, sy’n rhoi cyfeiriad strategol er mwyn parhau i gael cymorth gan yr Hyb Gofal Sylfaenol.

Bydd bwrdd y rhaglen, sef uwch-gynrychiolwyr byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar gynllun gwaith blynyddol yr Hyb Gofal Sylfaenol ac yn ei oruchwylio. Mae Bwrdd Rhaglen yr Hyb Gofal Sylfaenol yn goruchwylio dwy ffrwd waith:

  • Cefnogi’r broses o drawsnewid gofal sylfaenol
  • Gwaith atal mewn lleoliadau gofal sylfaenol

Gellir dod o hyd i adroddiadau blynyddol sy’n cofnodi gwaith yr Hyb Gofal Sylfaenol yma ar wefan Gofal Sylfaenol Un Cymru.