Mae’r Hyb Gofal Sylfaenol yn rhan bwysig o gyfraniad y maes iechyd cyhoeddus at gyflawni’r Rhaglen Strategol Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Mae cymorth yr Hyb Gofal Sylfaenol i drawsnewid gofal sylfaenol yn cwmpasu’r mathau canlynol o allbwn:
- Cynnyrch e.e. adroddiadau, offeryn Asesu Anghenion Gofal Sylfaenol.
- Dysgu a datblygu sgiliau e.e. gweithdai, adnoddau e-ddysgu.
- Arweinyddiaeth e.e. gwerthuso Model Gofal Sylfaenol Cymru, adolygu o Gynllun Tymor Canolig Integredig y bwrdd iechyd lleol o ran amlygrwydd gofal sylfaenol.
- Rhwydweithiau e.e. Grŵp Cyfeirio Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhwydwaith ar gyfer Arweinwyr Gofal Sylfaenol.