Mae angen trawsnewid y system iechyd a gofal yn ddybryd er mwyn canolbwyntio ar ddull gweithredu sy’n rhoi blaenoriaeth i atal, ac mae gofal sylfaenol yn rhan allweddol o’r system honno.
Mae cymorth yr Is-adran Gofal Sylfaenol er mwyn datblygu system a dull cydgysylltiedig o atal mewn gofal sylfaenol yn cynnwys:
Llunio fframwaith i gefnogi dull cydgysylltiedig o wneud gwaith atal mewn lleoliadau clinigol.
Manteisio ar gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid ar draws y system er mwyn gwella gweithgareddau atal a llesiant yn y gymuned.