Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r Offeryn Adrodd ar Ganser.
Mae hwn yn cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws ei ddefnyddio.
Caiff hygyrchedd ar y wefan hon ei harwain gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Caiff WCAG eu derbyn yn eang fel y safon genedlaethol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er ein bod yn anelu at sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob defnyddiwr ac at gyflawni lefel gydymffurfio WCAG ‘AA’, rydym yn gweithio’n barhaus â rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â lefel gydymffurfio ‘A’ fel isafswm.
Mae'r nodweddion cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Efallai y bydd gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Saesneg/Cymraeg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hwn, neu os bydd gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 22/06/2023
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni yn gyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 22/05/2023
Er ein bod yn ymdrechu i gwrdd â 'WCAG 2.1 AA' mae gennym y materion canlynol nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd:
1.1.1 Darparu dewisiadau testun amgen ar gyfer cynnwys nad yw'n destun
1.3.1 Hygyrch? Strwythur rhesymegol
1.3.4 Gellir arddangos cynnwys mewn cyfeiriadedd portread a thirwedd
1.3.5 Rhaid gallu pennu pob maes mewnbwn yn y rhaglen. Er enghraifft, dylai defnyddiwr allu llenwi mewnbynnau yn awtomatig
1.4.5 Peidiwch â defnyddio delweddau o destun
1.4.10 Rhaid i ddefnyddiwr allu pori drwy wefan gan ddefnyddio sgrin 320 picsel o led heb orfod sgrolio'n llorweddol (Mae rhai eithriadau)
2.1.1 Yn hygyrch trwy fysellfwrdd yn unig
2.4.1 Darparu dolen 'Neidio i'r Cynnwys'
2.4.5 Cynnig sawl ffordd o ddod o hyd i dudalennau
2.5.2 Wrth ddefnyddio digwyddiadau pwyntydd sengl, dylai un o'r canlynol fod yn wir, Dim Digwyddiad i Lawr, Atal neu Ddadwneud, Gwrthdroi i Fyny, Hanfodol
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mehefin 2023. Caiff ei adolygu ym mis Mehefin 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mawrth 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Empyrean Digital.