Neidio i'r prif gynnwy

Os bydd fy nghorff yn cael gwared ar HPV, a allaf gael y brechlyn HPV?

Os ydych eisoes wedi dod i gysylltiad â'r mathau o HPV y mae’r brechlyn yn eu cynnwys, mae’n bosibl na fyddai’n rhoi mwy o amddiffyniad i chi rhag cael eich heintio eto. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod yn union pa fath o HPV a allai fod gennych yn awr, neu a oedd gennych yn y gorffennol. Mae hyn yn golygu y gallai'r brechlyn gynnig ychydig o fudd i rai pobl.

Mae'n frechlyn diogel iawn. Mae’n cael ei gynnig i ferched a bechgyn 12-13 oed, dynion sy’n cael rhyw gyda dynion a rhai pobl drawsryweddol. 

Os ydych chi am gael y brechlyn, mae hyn yn golygu y byddai angen i chi dalu amdano. Bydd rhai practisiau meddygon teulu a fferyllwyr yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Os ydych o dan 25 oed a heb gael y brechlyn pan oeddech yn iau, gallwch ei gael am ddim gan eich meddyg.