Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn dangos bod gen i HPV. Rwyf wedi bod gyda'r un partner ers blynyddoedd lawer. Sut mae HPV gen i?

Gall HPV fod yn segur yn ein cyrff am flynyddoedd lawer ac mae’n bosibl na fydd byth yn achosi unrhyw newidiadau i’r celloedd. Os caiff ei ddarganfod ar brawf sgrinio serfigol (ceg y groth), ni fyddwn yn gallu dweud pa mor hir y mae wedi bod yno. Mae’n bosibl na fydd rhai pobl byth yn cael gwared arno.

Rydyn ni'n gwybod y gall darganfod bod gennych chi HPV yn sydyn nawr achosi i rai pobl boeni am eu partneriaid. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol y gall y feirws fod yn bresennol am flynyddoedd lawer heb achosi unrhyw broblemau i'r naill bartner na'r llall.

Gall y feirws achosi newidiadau i’r celloedd flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Dyma pam ei bod yn bwysig parhau i gael eich sgrinio pan fyddwch chi'n cael eich gwahodd, hyd yn oed os yw'ch profion bob amser wedi bod yn normal.