Neidio i'r prif gynnwy

Darganfuwyd HPV yn fy sampl serfigol. A yw hyn yn golygu y byddaf yn datblygu canser ceg y groth?

Nac ydy. Bydd pedwar o bob pump (80%) ohonom yn cael rhyw fath o HPV yn ystod ein bywydau. Ni fydd y rhan fwyaf ohonom byth yn gwybod ein bod wedi'i gael. Mae tua 90% o heintiau HPV yn gwella o fewn 2 flynedd.

Fel arfer, bydd y corff ei hun yn gwaredu'r HPV heb driniaeth. I nifer fach o unigolion, ni fydd eu cyrff yn gallu cael gwared ar HPV. Pan fo haint HPV gan bobl ers amser hir gall hyn achosi i gelloedd ceg y groth newid.  

Fel arfer, mae'n cymryd blynyddoedd lawer i ganser ceg y groth ddatblygu o unrhyw newidiadau i’r celloedd a allai ddigwydd yng ngheg y groth.  Gall sgrinio bob pum mlynedd sylwi ar y newidiadau hyn cyn iddynt ddatblygu’n ganser.