Neidio i'r prif gynnwy

Dangosodd fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) fod HPV gen i. A ddylai fy mhartner/gwraig gael prawf?

Na ddylai. Nid oes angen i'ch partner/gwraig gael prawf. Mae HPV yn gyffredin iawn, ac nid ydym yn gwybod pa mor hir y mae wedi bod gennych chi. Mae eich partner hefyd yn debygol o fod wedi cael HPV, ac mae’n bosibl ei fod yn dal i fod ganddo, neu efallai bod ei gorff wedi cael gwared arno.

Nid yw'n achosi unrhyw symptomau fel arfer ac nid ydym yn profi dynion amdano. Os ydych mewn perthynas â phartner o'r un rhyw â chi, byddem bob amser yn cynghori eich partner/gwraig i gael prawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) pan ddisgwylir iddi gael ei sgrinio.