Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf wedi cael hysterectomi. Pam ydw i'n dal i gael fy ngwahodd i gael fy sgrinio?

Weithiau, ni fydd Sgrinio Serfigol Cymru (CSW) yn gwybod eich bod wedi cael hysterectomi, felly bydd yn parhau i'ch gwahodd i gael eich sgrinio. Gall eich meddyg hysbysu CSW am eich hysterectomi ac yna gallwn orffen anfon gwahoddiadau sgrinio atoch.

Mae hysterectomi yn tynnu'r wterws (y groth) ac mae hyn fel arfer yn cynnwys y serfics (ceg y groth). Gelwir hyn yn 'hysterectomi cyflawn'. Weithiau, gellir gadael ceg y groth yn ei lle. Gelwir hyn yn hysterectomi rhannol. Os ydych wedi cael hysterectomi rhannol, dylech barhau i gael profion sgrinio serfigol (ceg y groth) hyd at 65 oed. Bydd eich meddyg yn gallu dweud wrthych pa fath o hysterectomi a gawsoch.

Ar ôl cael hysterectomi cyflawn, ni fyddai angen unrhyw brofion sgrinio pellach arnoch fel arfer.  Fodd bynnag, os bydd angen prawf sgrinio pellach arnoch, bydd eich gynaecolegydd yn rhoi gwybod i chi.