Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf o dan 25 oed ac rwyf eisiau cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth). Pam na allaf i gael un?

Yng Nghymru, byddwch yn cael eich gwahodd i gael sgrinio serfigol o pan fyddwch yn 25 oed tan y byddwch yn 64 oed. Nid yw sgrinio serfigol yn cael ei argymell ar gyfer unrhyw un o dan 25 oed.

Mae canser ceg y groth yn brin iawn ymhlith pobl o dan 25 oed, ac ni ddangoswyd bod sgrinio serfigol yn lleihau achosion o ganser yn y grŵp oedran hwn. Bydd y rhan fwyaf o newidiadau i’r celloedd yn y grŵp oedran hwn yn diflannu ar eu pen eu hunain. Gall sgrinio unigolion o dan 25 oed arwain at driniaeth nad yw o reidrwydd yn angenrheidiol.

Os ydych o dan 25 oed, byddwch wedi cael cynnig y brechlyn HPV yn yr ysgol. Os cawsoch y brechlyn, byddwch yn llai tebygol o ddatblygu HPV. Byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) pan fyddwch yn 25 oed. Mae'n dal yn bwysig i chi fynd i’ch prawf sgrinio serfigol, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn, gan nad yw'n amddiffyn rhag pob math o HPV.

Hyd yn oed os na chawsoch chi’r brechlyn HPV, ni fydd angen prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arnoch nes y byddwch yn 25 oed.

Os oes gennych unrhyw symptomau, fel gwaedu afreolaidd, rhedlif neu boen yn ystod rhyw, mae'n bwysig eich bod yn gweld eich meddyg.
Bydd eich gwahoddiad i gael eich sgrinio fel arfer yn cyrraedd ychydig o fisoedd cyn eich pen-blwydd yn 25 oed. Gallwch fynd i gael eich sgrinio ar unwaith. Nid oes angen i chi aros am eich pen-blwydd yn 25 oed os ydych wedi derbyn eich llythyr gwahoddiad.