Yng Nghymru, mae unigolion a all gael sgrinio serfigol yn cael eu gwahodd hyd nes eu bod yn cyrraedd 64 oed. Daw'r rhaglen sgrinio i ben bryd hynny oherwydd ei bod yn annhebygol iawn y bydd unigolion yn datblygu canser ceg y groth yn ddiweddarach os nad oes ganddynt HPV (feirws papiloma dynol) ar yr adeg honno.
Er bod canser ceg y groth yn digwydd mewn unigolion hŷn, mae'n digwydd yn aml mewn pobl nad ydynt wedi cael eu sgrinio, neu mewn pobl nad ydynt wedi cael digon o brofion sgrinio yn y gorffennol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg am unrhyw waedu anarferol, rhedlif neu symptomau eraill, hyd yn oed pe bai pob un o'ch profion blaenorol yn normal, Mae hyn yn cynnwys:
Os nad ydych erioed wedi bod am brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) gallwch ofyn yn eich meddygfa i gael un, hyd yn oed os ydych chi dros 65 oed.