Neidio i'r prif gynnwy

Beth os nad ydw i eisiau cael prawf sgrinio serfigol?

Eich dewis chi yw cael prawf sgrinio serfigol. Mae gan Sgrinio Serfigol Cymru ddyletswydd i wahodd pob unigolyn cymwys i gael prawf sgrinio.

Os na fyddwch yn mynd i brawf sgrinio o fewn chwe mis i'ch llythyr gwahoddiad, bydd llythyr atgoffa yn cael ei anfon atoch. Os na fyddwch yn mynd i brawf sgrinio serfigol ar ôl derbyn eich llythyr atgoffa, ni fydd llythyr yn cael ei anfon atoch am bum mlynedd. Gallwch fynd i brawf sgrinio unrhyw bryd ar ôl i chi dderbyn gwahoddiad.

Gall unigolion sydd wedi gofyn i ni beidio ag anfon llythyrau gwahoddiad atynt, ond sydd wedyn yn penderfynu'n ddiweddarach yr hoffent gael eu sgrinio, ailymuno â’r rhaglen unrhyw bryd nes eu bod yn cyrraedd 64 oed (neu'n hŷn os nad ydynt erioed wedi cael eu sgrinio).

Fel arfer byddwn yn anfon ffurflen atoch i’w llenwi, oherwydd bod angen i ni fod yn siŵr eich bod yn deall yr hyn a allai ddigwydd os byddwch yn dewis peidio â chael eich sgrinio.

 Os nad ydych am dderbyn gwahoddiadau i gael sgrinio serfigol, gallwch gysylltu â Sgrinio Serfigol Cymru.

Mae’n bosibl y byddwch yn hapus i dderbyn eich llythyrau gwahoddiad a phenderfynu bob tro y byddwch yn eu derbyn a ydych am fynd iddynt ai peidio.