Neidio i'r prif gynnwy

A yw'n ddiogel aros pum mlynedd ar gyfer fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) nesaf?

Ydy. Mae tystiolaeth yn dangos os nad oes HPV risg uchel i'w gael yn sampl unigolyn, mae gan yr unigolyn risg isel iawn o ddatblygu canser ceg y groth o fewn pum mlynedd. Ar gyfer pobl â systemau imiwnedd arferol, mae'n cymryd tua 15 i 20 mlynedd i ddatblygu ar ôl haint HPV.