Neidio i'r prif gynnwy

A allaf i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn amlach?

Yng Nghymru, mae pobl rhwng 25 a 64 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob pum mlynedd.  Fel arfer, mae'n cymryd blynyddoedd lawer i ganser ceg y groth ddatblygu o unrhyw newidiadau i gelloedd a allai ddigwydd yng ngheg y groth.  Gall cynnal profion sgrinio bob pum mlynedd sylwi ar y newidiadau hyn cyn iddynt ddatblygu’n ganser.
Yr unig bobl sy’n cael eu sgrinio’n amlach yw:

  • Pobl sydd wedi cael eu harchwilio mewn clinig colposgopi, a allai fod angen profion amlach am gyfnod o amser
  • Cynghorir pobl â HIV i gael eu sgrinio bob blwyddyn, hyd yn oed os na ddarganfyddir HPV risg uchel
  • Pobl y mae HPV risg uchel wedi cael ei ddarganfod ar eu profion sgrinio, ond nid oes newidiadau i’r celloedd

Os na ddarganfuwyd HPV risg uchel yn eich prawf sgrinio, ni allwch gael eich sgrinio eto cyn pen pum mlynedd.