Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n amser fy mislif - a allaf gael fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) o hyd?

Yr amser gorau i fynd i gael eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yw pan nad ydych ar eich mislif.

 

Os yw eich cylch yn rheolaidd, ceisiwch drefnu apwyntiad ar gyfer prawf sgrinio serfigol naill ai cyn neu ar ôl eich mislif.

 

Os yw eich cylch yn afreolaidd ac nad ydych yn gwybod pryd i ddisgwyl eich mislif nesaf, dylech drefnu i fynd i gael eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) o hyd.

 

Os ydych yn gwaedu ar ddiwrnod eich apwyntiad, gall yr unigolyn sy’n cymryd sampl gennych edrych ar geg y groth ac asesu a yw'n gallu cymryd y sampl serfigol neu beidio. Mae hyn oherwydd bod gwaedu trwm weithiau'n gallu achosi i'r prawf fod yn 'annigonol', sy'n golygu na fyddech yn derbyn canlyniad ond yn hytrach byddech yn cael eich cynghori i ddychwelyd am ail brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) ymhen o leiaf 12 wythnos.

 

Os ydych yn gwaedu pan na ddylech fod yn gwaedu, megis gwaedu ar ôl rhyw, rhwng eich mislif neu ar ôl y menopos, dylech weld eich meddyg, hyd yn oed os ydych wedi cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn ddiweddar.