Weithiau, yn ystod y prawf sgrinio serfigol (ceg y groth), ni fydd y nyrs neu'r meddyg yn gallu casglu digon o gelloedd o'r geg y groth. Mae hyn yn golygu nad oes modd archwilio'r sampl am newidiadau i’r celloedd, felly nid oes modd rhoi canlyniad cywir. Dylech fynd i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall ymhen tri mis.