Ydy. Mae'n bwysig eich bod yn mynd i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall. Mae hyn oherwydd ein bod wedi dod o hyd i Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel yn eich sampl. Gall y feirws hwn achosi newidiadau i’r celloedd ceg y groth, a all dros amser, os na chânt eu trin, ddatblygu'n ganser ceg y groth.