Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf wedi cael fy nghynghori i aros am dri mis cyn cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall. A yw aros yn beryglus?

Rydym yn deall y gall gorfod aros beri pryder i chi os byddwch wedi cael canlyniad HPV positif. Mae’n bwysig eich bod yn aros 12 wythnos i alluogi’r celloedd ar geg y groth i dyfu’n ôl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn roi canlyniad cywir i chi.
Os ydych yn bryderus iawn, siaradwch â'r meddyg neu'r nyrs a gymerodd eich sampl neu cysylltwch â'r nyrs sgrinio serfigol ranbarthol, a fydd yn rhoi cyngor i chi am eich hanes sgrinio unigol.