Mae eich prawf wedi dangos rhai newidiadau i’r celloedd sy'n annhebygol iawn o fod yn ganser, ond mae angen eu harchwilio mewn clinig colposgopi. Mae colposgopi yn archwiliad sy’n edrych ar eich serfics (ceg y groth) yn fwy manwl. Bydd y colposgopydd yn chwilio am unrhyw newidiadau i geg y groth.