Mae eich prawf wedi dangos rhai mân newidiadau (gradd isel) i’ch celloedd. Mae angen archwilio ymhellach i hyn mewn clinig Colposgopi.
Gall darganfod bod gennych newidiadau i’r celloedd fod yn destun pryder. Mae'n bwysig nodi nad yw newidiadau i’r celloedd yn ganser ceg y groth. Nid yw newidiadau i’r celloedd yn golygu y byddwch yn datblygu canser ceg y groth chwaith. Bydd y rhan fwyaf o’r newidiadau i’r celloedd yn gwella ar eu pen eu hunain neu wrth gael eu trin.