Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn digwydd i mi yn y clinig colposgopi?

Byddwch yn cael eich archwilio gan nyrs neu feddyg o'r enw Colposgopydd. Bydd yn defnyddio colposgop, sy'n edrych fel pâr o ysbienddrych ar stand, i chwilio am newidiadau i’r celloedd. Mae cael colposgopi yn debyg iawn i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth). Os bydd y Colposgopydd yn gweld unrhyw newidiadau i'r celloedd, mae’n bosibl y bydd yn cymryd biopsi (darn bach o’r croen). Weithiau, byddwch yn cael cynnig triniaeth yn ystod eich ymweliad cyntaf.

Ewch i'n tudalen Colposgopi a Thriniaeth i gael rhagor o wybodaeth.