Neidio i'r prif gynnwy

Os bydd angen i fi gael fy sgrinio'n amlach, pam nad ydych chi wedi fy anfon i'r clinig Colposgopi?

Mae HPV yn feirws cyffredin y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael gwared arno’n naturiol o fewn dwy flynedd. Gan nad oes gennych unrhyw newidiadau i'ch celloedd, nid oes angen i ni eich anfon i’r clinig colposgopi ar hyn o bryd.
Byddwn yn parhau i'ch monitro a byddwn yn eich atgyfeirio at y clinig colposgopi os ydych yn dal yn HPV positif ar ôl 24 mis.