Mae HPV yn feirws cyffredin y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael gwared arno’n naturiol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai unigolion yn cymryd ychydig yn hwy i gael gwared ar y feirws. Weithiau, bydd yr unigolion hyn yn datblygu newidiadau i’r celloedd.
Gan fod eich prawf yn dangos eich bod yn HPV positif, mae'n bwysig ein bod yn eich monitro'n amlach i wneud yn siŵr bod yr HPV yn cael ei waredu.