Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond roedd fy nghelloedd yn normal. Pam ydw i wedi cael fy atgyfeirio i'r clinig Colposgopi?

Bydd pedwar o bob pump ohonom yn cael HPV ar ryw adeg yn ystod ein bywydau. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf ohonom yn cael gwared ar y feirws yn naturiol o fewn dwy flynedd. Os na fydd eich corff yn cael gwared ar yr HPV, gall weithiau achosi newidiadau i gelloedd ceg y groth a all, os na chânt eu trin, arwain at ganser ceg y groth.  Gan ein bod wedi darganfod bod gennych HPV o hyd, rydym wedi eich atgyfeirio at y clinig colposgopi i archwilio’ch serfics (ceg y groth) i weld a oes unrhyw newidiadau.