Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor ddibynadwy yw sgrinio serfigol?

Mae sgrinio serfigol yn brawf da iawn ar gyfer darganfod newidiadau i’r celloedd a all arwain at ganser ceg y groth, ond nid yw'n berffaith.

Er ei fod yn brin, efallai na fydd y prawf sgrinio yn darganfod newidiadau i’r celloedd, na chanser hyd yn oed.

Hyd yn oed os na ddarganfuwyd HPV risg uchel gan eich prawf sgrinio neu os ydych wedi cael profion sgrinio arferol yn y gorffennol, mae'n bwysig iawn rhoi gwybod i'ch meddyg am unrhyw symptomau newydd. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys:

  • Gwaedu ar ôl rhyw.
  • Gwaedu rhwng eich mislif.
  • Gwaedu ar ôl y menopos.
  • Rhedlif o’r wain sy’n anarferol i chi – gall fod ag arogl, edrychiad neu drwch gwahanol (er enghraifft, gall fod yn fwy trwchus).
  • Poen yn ystod neu ar ôl rhyw.
  • Poenau yng ngwaelod y cefn neu yn y bol.