Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r prawf sgrinio serfigol (ceg y groth)?

Roedd y prawf sgrinio serfigol yn arfer cael ei alw'n brawf ceg y groth.

Cymerir sampl o gelloedd o’r serfics (ceg y groth, ar ben y fagina) gan ddefnyddio brwsh meddal. Profir y sampl yn gyntaf am fathau risg uchel o Feirws Papiloma Dynol. Mae hyn oherwydd bod y newidiadau i’r celloedd sy'n arwain at bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan HPV risg uchel.

Os na chaiff HPV risg uchel ei ddarganfod yn y sampl, ni fydd angen edrych ar y celloedd. Mae hyn yn digwydd mewn bron i 9 o bob 10 sampl.

Os bydd HPV risg uchel yn cael ei ddarganfod yn y sampl, bydd sgriniwr yn edrych ar y celloedd yn y sampl o dan ficrosgop i chwilio am unrhyw newidiadau.

Os bydd y celloedd yn normal, cynhelir ail brawf sgrinio serfigol ar ôl 12 mis i weld a yw'r HPV risg uchel yn dal i fod yn bresennol. Os yw'n dal i fod yno, bydd y celloedd yn cael eu harchwilio eto.

Os bydd newidiadau i’r celloedd, bydd angen gwneud archwiliadau pellach.