Os yw eich canlyniad sgrinio serfigol yn dweud bod angen profion pellach, byddwch yn cael eich atgyfeirio i glinig colposgopi yn eich ysbyty agosaf.
Mae colposgopi yn golygu edrych ar geg y groth, i geisio gweld o ble y mae unrhyw newidiadau yn y celloedd a welwyd yn eich sampl prawf sgrinio wedi dod.
Gelwir y person sy'n gwneud yr archwiliad yn golposgopydd a gall fod yn feddyg neu'n nyrs. Maent yn defnyddio colposgop – sy'n edrych fel pâr o ysbienddrych ar stand, gyda golau llachar – i chwilio am y newidiadau yn y celloedd.
Nid yw'r colposgop yn mynd y tu mewn i chi. Mae cael colposgopi yn debyg iawn i gael prawf sgrinio serfigol.
Fel arfer gallwch weld eich ceg y groth ar sgrin os byddwch am wylio. Mae'r rhan fwyaf o glinigau yn gallu tynnu llun a chadw hwn yn eich cofnodion ysbyty, os ydych yn fodlon ar hyn.
Bydd y colposgopydd yn rhoi rhai toddiannau ar eich ceg y groth a fydd yn amlygu newidiadau annormal yn y celloedd os ydynt yn bresennol. Efallai y bydd y toddiant yn achosi ychydig bach o deimlad llosg.
Efallai y bydd y colposgopydd hefyd yn defnyddio toddiant ïodin ddangos unrhyw rannau lle mae newidiadau yn y celloedd.
Os bydd y colposgopydd yn gweld rhan sy'n edrych fel bod newidiadau yn y celloedd, bydd fel arfer yn gofyn a all gymryd biopsi. Mae hyn yn golygu cymryd pinsiaid bach o groen o arwyneb ceg y groth, tua maint gronyn o reis. Anfonir y biopsi hwn i'r labordy er mwyn iddynt edrych arno.
Os bydd biopsi yn cael ei gymryd gennych, byddwch fel arfer yn cael eich cynghori i beidio â chael rhyw am wythnos, ac i osgoi defnyddio tamponau, mynd i nofio a chael bath.
Weithiau, bydd y colposgopydd yn cynnig trin newidiadau yn y celloedd yn ystod yr ymweliad cyntaf (gweler y driniaeth). Bydd yn esbonio hyn i chi yn y clinig.
Bydd y colposgopydd yn ysgrifennu atoch gyda chanlyniadau unrhyw fiopsïau a gymerwyd. Bydd yn dweud wrthych a oes angen unrhyw driniaeth arnoch neu apwyntiadau pellach. Os na fydd angen i chi gael eich gweld eto, bydd yn dweud wrthych pryd i gael eich prawf ceg y groth nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein taflen Eich Apwyntiad Clinig Colposgopi.