Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth

Weithiau bydd newidiadau yn y celloedd yn cael eu trin i'w hatal rhag troi'n ganser ceg y groth.

 

Ni fyddai'r rhan fwyaf o newidiadau ysgafn yn y celloedd yn troi'n ganser ceg y groth, ond mae siawns uwch y bydd newidiadau mwy amlwg yn troi'n ganser. Gwneir triniaeth i geisio atal hyn rhag digwydd.

 

Gelwir y newidiadau mwyaf cyffredin yng ngheg y groth yn Neoplasia Mewnepithelaidd Serfigol (CIN). Mae'r rhain yn cael eu graddio fel CIN 1 (ysgafn), CIN 2 (cymedrol) neu CIN 3 (difrifol).

 

Efallai y bydd gan rai pobl fath o newid yn y celloedd o'r enw Neoplasia Mewnepithelaidd Chwarennol Serfigol (CGIN). Nid yw hyn fel arfer yn cael ei raddio.

 

Fel arfer, nid oes angen triniaeth ar newidiadau ysgafn yn y celloedd ar geg y groth (CIN 1), gan eu bod fel arfer yn diflannu ar eu pen eu hunain. Gallwch fel arfer gael prawf sgrinio serfigol dilynol yn eich meddygfa neu yn eich clinig iechyd rhywiol.

 

Mae newidiadau mwy amlwg yn y celloedd (CIN 2 a CIN 3) ac CGIN fel arfer yn cael eu trin.

Mae'r driniaeth nail ai'n: -

  • Tynnu'r rhan annormal 
  • Defnyddio Dolen Fawr i Dorri'r Rhan Drawsnewid (LLETZ)
  • Biopsi Côn
  • Dinistrio'r celloedd annormal
  • Thermogeulo (a elwir weithiau'n geulad oer)
  • Triniaeth laser
  • Cryoseriad (Rhewi)

Gellir cynnig triniaeth neu oruchwyliaeth i unigolion 30 oed ac iau sydd â CIN 2 (mae hyn yn golygu cael archwiliadau rheolaidd yn y clinig colposgopi). Mae hyn oherwydd bod siawns uchel y bydd y newidiadau yn y celloedd siawns yn mynd yn ôl i normal ar eu pennau eu hunain. Os na fydd y newidiadau yn y celloedd yn gwella, neu os byddant yn datblygu'n newid gradd uwch, cynigir triniaeth.
 

Dylai unigolion dros 30 oed â CIN 2 gael cynnig triniaeth
 

Cynigir triniaeth i bawb â CIN 3 ac CGIN.
 

Mae triniaethau fel arfer yn cael eu gwneud yn y clinig colposgopi tra byddwch yn effro (ac eithrio ar gyfer biopsi côn). Mae rhywfaint o anesthetig lleol yn cael ei chwistrellu i mewn i geg y groth fel ei fod yn fferru.
 

Weithiau bydd triniaeth yn cael ei gwneud o dan anesthetig cyffredinol (byddwch yn cysgu). Efallai mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod y rhan yn anodd ei thrin tra byddwch yn effro.
 

Byddwch yn cael gwybodaeth am y mathau o driniaeth a dywedir wrthych pa un sydd siŵr o fod orau i chi. Ni ellir gwneud y driniaeth os ydych yn feichiog ond mae'n dal yn bwysig eich bod yn mynd i apwyntiadau clinig pan fyddwch yn cael eich cynghori i wneud hynny.
 

Os byddwch yn cael triniaeth, byddwch yn cael eich cynghori i beidio â chael rhyw am fis.  Ni ddylech hefyd ddefnyddio tamponau, mynd i nofio na chael bath.
 

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein taflen
 

Gall rhai canserau ceg y groth cynnar iawn gael eu trin yn y clinig colposgopi. Fodd bynnag, efallai y bydd y colposgopydd yn argymell ymchwiliad pellach ac yn eich atgyfeirio i arbenigwr canser.