Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae cael apwyntiad?

Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar, bydd eich meddyg teulu/darparwr gofal iechyd yn rhoi gwybod i ni er mwyn i ni allu eich cofrestru ar ein system a’ch gwahodd i apwyntiad.  Mae hyn yn wir hefyd os ydych wedi symud i fyw i Gymru yn ddiweddar a’ch bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru neu os ydych yn derbyn gofal iechyd sylfaenol mewn lleoliad preswyl caeedig.  Ar ôl i chi gofrestru gyda ni, byddwn yn eich gwahodd pan fydd angen i chi gael eich sgrinio.