Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf wedi cael diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar, a fyddaf yn cael apwyntiad?

Byddwch.  Os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 1 neu Fath 2 yn ddiweddar bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth sgrinio llygaid diabetig.  Byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch gyda dyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad.  

Os nad ydych wedi cael llythyr yn eich gwahodd ar ôl 12 wythnos, cysylltwch â'ch practis meddyg teulu i roi gwybod iddynt.