Cynhelir sgrinio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, practisiau meddygon teulu, rhai lleoliadau cymunedol ac unedau symudol.
Ein nod yw eich gwahodd i’r lleoliad sydd agosaf at eich cartref, o fewn taith 45 munud. Bydd hyn yn dibynnu ar y lleoliad a'r apwyntiadau sydd ar gael.