Amcan CARIS yw casglu data dibynadwy am anomaleddau cynhenid yng Nghymru. Gellir defnyddio’r data hyn wedyn i ddisgrifio a helpu i asesu patrymau anomaleddau yng Nghymru, gan gynnwys clystyrau dichonol a’r ffactorau sy’n eu hachosi, sgrinio cynenedigol ac ymyriadau eraill i atal neu ddarganfod anomaleddau, a darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer babanod a phlant a effeithir gan anomaleddau.
Mae CARIS yn casglu gwybodaeth am unrhyw ffetws neu faban sy’n dioddef, neu y tybir ei fod yn dioddef anomaledd cynhenid, yr oedd ei fam yn byw fel arfer yng Nghymru ar ddiwedd cyfnod y beichiogrwydd. Mae’n cynnwys ffetysau ar unrhyw adeg o’r cyfnod cario y diagnoswyd anomaledd ynddo, ymlaen at fabanod hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf eu bywyd. Dechreuwyd casglu data ar 1af Ionawr 1998, ac mae’n cynnwys unrhyw feichiogrwydd perthnasol a ddaeth i ben o’r dyddiad hwnnw ymlaen.
Mae CARIS wedi diffinio anomaledd fel cyflwr sy’n cynnwys namau strwythurol, metabolaidd, endocrinol neu enetig sy’n bresennol yn y plentyn / ffetws ar ddiwedd y beichiogrwydd, hyd yn oed os nas darganfyddir tan adeg hwyrach.
Mae hyd at 40,000 o feichiogiadau’n digwydd bob blwyddyn yng Nghymru. Cofrestrir tua thri chwarter o’r rhain fel genedigaethau byw neu farw. Mae’r lleill yn diweddu p’un ai mewn colled digymell (camesgoriad) cyn 24edd wythnos y cyfnod cario neu yn nherfyniad therapewtig y beichiogrwydd.
Genir tua thri y cant (3%) o blant gartref. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 12 o unedau obstetrig ymgynghorol a 9 o unedau dan arweiniad bydwragedd, lle ceir y rhan fwyaf o enedigaethau. Bydd mamau sy’n byw yn agos i ffin Lloegr yn esgor yn aml yn Lloegr, yng Nghaer er enghraifft, Amwythig neu Henffordd.
Mae CARIS yn defnyddio system adrodd aml-ffynhonnell er mwyn cael hyd i’r nifer uchaf bosibl o achosion gan greu’r darlun cyflawnaf posibl o achosion cymhleth ag anomaleddau lluosol.
Adrodd clinigol yw ffynhonell gwybodaeth bwysicaf CARIS. Mae’n darparu disgrifiad manwl o’r anomaledd nad yw ffynonellau eraill yn ei roi, yn enwedig ar gyfer achosion:
Mae cardiau rhybudd ar bapur a ffurflenni hel data’n dal i weithio’n dda yn y rhan fwyaf o gyd-destunau clinigol. Mae fersiwn o’r cerdyn rhybudd ar gael ar y We hefyd, sef yr E-rybudd. Adroddir ar archwiliadau uwchsain cynenedigol trwy gardiau rhybudd ac yn electronig bellach trwy RadIS II.
Mae lawrlwythiadau o nifer o gronfeydd data’n werthfawr iawn i’r gofrestr hefyd e.e. sytogeneteg, cardioleg bediatrig a geneteg feddygol. Darperir y rhain bob tri mis neu bob blwyddyn. Ar ben hyn mae data am gleifion preswyl gan Gronfa Ddata Episodau Cleifion Cymru (PEDW) yn rhoi gwybodaeth bwysig am lawdriniaeth, yn enwedig tua diwedd babandod ac yn ystod plentyndod y claf.