Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio ystod o opsiynau ar gyfer rhwydwaith o hybiau gweithio o bell mewn trefi a chymunedau, i gefnogi dulliau newydd a chynhwysol. I gael mwy o wybodaeth, yn cynnwys dolenni pellach i Lywodraeth Cymru ynglŷn â gweithio gartref, cliciwch yma.
Ffeithlun rhyngweithiol i gynorthwyo gweithwyr gartref i gynnal osgo da wrth eistedd, a sut i greu awyrgylch gweithio cadarnhaol trwy lif aer digonol, golau, sŵn, gorffwys a chysylltiad rheolaidd â chydweithwyr.
Dylai cyflogwyr asesu anghenion gweithwyr unigol, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio o gartref, fesul achos, er mwyn nodi a rheoli unrhyw risgiau. Gall fod mwy o risgiau i weithwyr unigol heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol neu unrhyw un i’w helpu os aiff pethau o chwith.
Mae’n bwysig sicrhau cysylltiad rheolaidd â chyflogeion i wneud yn siŵr eu bod yn iach a diogel. Os yw cysylltiad yn gyfyngedig, gallai cyflogeion deimlo eu bod wedi eu datgysylltu, ar wahân neu wedi cael eu gadael ar eu hôl. Gall hyn effeithio ar lefelau straen ac iechyd meddwl.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu gwybodaeth am weithio unigol, creu man gwaith gartref, ac adnabod arwyddion o straen.
I gael mwy o wybodaeth am ddiogelu staff sy’n gweithio gartref, cliciwch yma.
Gan fod gweithio o gartref yn ffordd allweddol i lawer o weithwyr a sefydliadau ddal ati yn ystod argyfwng y coronafeirws, mae CIPD wedi bod yn cyhoeddi cyfres o brif gynghorion i’ch helpu chi a’ch tîm i wneud y gorau o weithio o bell.
I weld y rhain, cliciwch yma.
Mae lansio ymgyrch les newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ‘Sut wyt ti’, yn cynnig cyngor ar ofalu amdanoch chi’ch hun a’ch anwyliaid yn ystod cyfnod ynysu, trwy’ch annog i ofyn 3 chwestiwn i chi’ch hun, sef:
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.