Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Presenoldeb

Pam bod rheoli presenoldeb yn bwysig i gyflogeion?

Mae gwaith yn hanfodol i iechyd, lles a hunan-barch. Pan fydd afiechyd yn achosi absenoldeb hirdymor oherwydd salwch, mae cylch seithug o iselder, ynysu cymdeithasol ac oedi cyn gwella yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd cyflogai yn dychwelyd i'r gwaith.

Pam bod rheoli presenoldeb yn bwysig i gyflogwyr?

Mae mynd ati i leihau absenoldeb hirdymor oherwydd salwch yn helpu i gynnal busnes a gweithlu iach a chynhyrchiol yn ogystal â diogelu swyddi.

Camau i'w Hystyried ar gyfer Rheoli Absenoldeb:

Effeithiau Absenoldeb ar eich Sefydliad

Gall absenoldeb oherwydd salwch gael effaith sylweddol ar berfformiad a chynhyrchiant sefydliad. Ceir rhai ffeithiau allweddol isod ynglŷn ag effeithiau absenoldeb oherwydd salwch:

  • Collwyd 131 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn economi'r DU oherwydd salwch yn 2013.
  • Gall rheoli absenoldeb yn dda leihau faint o amser y bydd cyflogeion yn absennol o'r gwaith - mae cyfnod o absenoldeb yn para tua 17 diwrnod ar gyfartaledd.
  • Gall lleihau'ch cyfraddau absenoldeb arbed arian i chi – amcangyfrifir y gall cyfanswm y costau sy'n gysylltiedig â throsiant staff gyrraedd £8,000 fesul cyflogai.
  • Gall rheoli absenoldeb yn rhagweithiol helpu cyflogwyr i ymdrin â'r sefyllfa sy'n gwaethygu oherwydd disgwylir y bydd cyflogwyr yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r baich economaidd sy'n gysylltiedig â gweithluoedd sy'n heneiddio, cyfraddau cynyddol o salwch cronig, a phwysau ar system y GIG

Cyfeiriadau

SYG – sickness absence in labour market, 2014, HSE, 2005, Mowbray D. (2008), Vaughan-Jones H. a Barham L. (2009). Healthy Work: Challenges and Opportunities to 2030. Bupa: Llundain, Black C. (2008),  Working For a Healthier Tomorrow. Llyfrfa Ei Mawrhydi: Norwich

Podlediiad Rheoli Absenoldeb

05/08/2021

Gall absenoldeb oherwydd salwch effeithio'n sylweddol ar berfformiad a chynhyrchiant sefydliad ac mae ystadegau’n dangos bod mwy na 140 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn y DU yn cael eu colli oherwydd salwch neu anaf. Mae Rhian Richards o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn siarad â Geraint Hardy am yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wneud i reoli absenoldeb salwch orau, gan gynnwys defnyddio'r nodyn iach i weithio.

Dolenni defnyddiol:

Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/

Arweiniad a Gwybodaeth Bellach