Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl a Llesiant

 

Gall y term “iechyd meddwl” gwmpasu ystod eang o brofiadau, o lesiant meddyliol cadarnhaol i fyw gyda diagnosis o gyflwr iechyd meddwl hirdymor. Yn syml, mae llesiant meddyliol yn golygu "teimlo'n dda a gweithredu'n dda". Mae amddiffyn a gwella ein llesiant meddyliol yn cyfrannu at ein hiechyd meddwl cyffredinol (a’n hiechyd corfforol) a gall helpu i leihau’r risg o brofi iselder neu orbryder. 

Mae hyrwyddo llesiant meddyliol yn y gweithle yn hanfodol i gyflogwyr a gweithwyr, gan gynnig buddion sylweddol fel cynhyrchiant cynyddol, gwell perthnasoedd yn y gweithle, gwell recriwtio a chadw, ac enillion ariannol.

 

Effaith Iechyd Meddwl Gwael yn y Gweithle

Mae iechyd meddwl gwael yn y gweithle yn cael effaith ariannol sylweddol, yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o’r DU. Mae'r costau hyn yn deillio o gynhyrchiant a gollwyd, absenoldeb, presenoldeb (lle mae gweithwyr yn bresennol yn gorfforol ond heb fod yn gwbl gynhyrchiol), a mwy o gostau gofal iechyd a chymorth.

Mae'r baich ariannol ar gyflogwyr yn sylweddol. Yn 2022-2023, roedd cyflogwyr Deloitte (dolen Saesneg yn unig), y DU yn wynebu baich ariannol o £51 biliwn oherwydd iechyd meddwl gwael yn y gweithle, 8% yn is na’r £55 biliwn a adroddwyd yn 2020-2021 (ffigur 1). Awgryma hyn bod cynnydd yn cael ei wneud o ran gwella bywydau a llesiant gweithwyr. Er gwaethaf y gostyngiad, mae presenoldeb yn parhau i gyfrannu fwyaf at y costau hyn.

Ffigur 1: Costau blynyddol oherwydd absenoldeb, presenoldeb a throsiant llafur

Noder: Oedolion yn y DU 18+ a oedd yn gweithio ym mis Medi 2022-Hydref 2023 ac nad oeddent yn hunangyflogedig

Ffynhonnell: Deloitte: Iechyd meddwl a Chyflogwyr (dolen Saesneg yn unig):

Mae adroddiad (dolen Saesneg yn unig) a gyhoeddwyd yn 2023 gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a Simplyhealth yn amlygu bod:

  • Materion iechyd meddwl yn cyfrif am 39% o absenoldebau tymor byr.
  • Ar gyfer absenoldeb hirdymor, roedd 63% yn broblemau iechyd meddwl ac yn brif achos.

Pe baech yn gallu rhannu’r gost gyfartalog rhwng pob gweithiwr Cymreig, nid y rhai sy'n sâl yn unig, mae Deloitte yn amcangyfrif y byddai’r gost hon yn £1,557 fesul gweithiwr. Os ydych chi'n ystyried mudiad bach yng Nghymru sy’n cyflogi 50 o bobl, gallai hyn fod gyfystyr â chostau o bron i £78,000 y flwyddyn oherwydd iechyd meddwl gwael ymhlith gweithwyr.

Mae tystiolaeth yn dangos bod ymyriadau yn y gweithle i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn meddu ar y potensial o ran buddion sylweddol i gyflogwyr, gweithwyr a'r economi ehangach. Yn ogystal â'r buddion y bydd gweithwyr yn eu profi, mae buddsoddi mewn iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle yn darparu ystod o buddion i'r sefydliad y gellir ei gyfrifo fel elw cyfartalog ar fuddsoddiad. Felly, am bob £1 a wariwyd ar  gefnogi iechyd meddwl gweithwyr, bydd cyflogwyr yn cael £4.70 ar gyfartaledd yn ôl mewn llai o absenoldeb a throsiant staff.

Rydym yn gwybod mai problemau iechyd meddwl yw un o'r prif resymau dros absenoldeb salwch, a bod mwy a mwy o gyflogwyr yn poeni am iechyd meddwl a llesiant gweithwyr a hoffen nhw wneud mwy amdano.

Y newyddion da yw bod yna lawer o bethau y gall cyflogwyr eu gwneud i ofalu am iechyd meddwl eu gweithwyr. Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth, adnoddau ac arweiniad i gyflogwyr er mwyn helpu i gynnal iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle a chyfeirio at wasanaethau a all gynnig cymorth i weithwyr os oes angen.

 

Creu Gweithle Cynhwysol ar gyfer Iechyd Meddwl

Gall hyrwyddo diwylliant cadarnhaol yn y gweithle sy’n blaenoriaethu llesiant meddyliol liniaru’r effeithiau hyn. Mae canllaw Cymru Iach ar Waith (HWW) ar Reoli Absenoldeb Salwch (MSA) yn awgrymu ystod o strategaethau i greu amgylcheddau gwaith cefnogol lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall.

Dylai annog sgyrsiau agored fod yn faes ffocws allweddol:

  • Mentrau fel Hapus: Gall Sgwrs Genedlaethol am Lesiant Meddyliol normaleiddio trafodaethau am iechyd meddwl, gan helpu i leihau stigma. Mae gweithleoedd yn lleoliadau pwysig lle gellir ffurfio cysylltiadau cymdeithasol a dylid annog rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol. Gall camau bach fel diolch i gydweithwyr am eu cyfraniadau wneud gwahaniaeth mawr i sut mae pobl yn teimlo yn y gwaith.

Gall adeiladu cyfleoedd i weithwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau hybu llesiant, fel gweithgarwch corfforol, cysylltu â natur a chefnogi dysgu gefnogi llesiant meddyliol da ymhellach yn y gwaith.

  • Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl (dolen Saesneg yn unig) yn cynnig adnoddau a gwybodaeth i gefnogi llesiant meddyliol, gan helpu unigolion a chyflogwyr i gael mynediad at offer a chyngor ymarferol ar gyfer rheoli iechyd meddwl.

 

Ffyrdd Syml o weithredu

Mae'r camau canlynol yn seiliedig ar ymchwil am yr hyn sy'n gweithio yn y gweithle: