Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau'n hyrwyddo beicio i'r ysgol

Mae gan ymyriadau’n hyrwyddo beicio i’r ysgol sail dystiolaeth angyson. 20, 21, 24, 26, 55, 64, 66, 79, 80

 

Ymyrraeth:
Edrychodd naw astudiaeth (saith o ansawdd cymedrol a dau o ansawdd gwael) ar effeithiolrwydd ymyriadau sy’n hyrwyddo beicio i’r ysgol yn unig. Wedi eu sefydlu yn y cynllun teithio i’r ysgol, roedd yr astudiaethau hyn yn gweithredu amrywiaeth eang o ymyriadau oedd yn amrywio o ran cymhlethdod. Roedd hyn yn cynnwys ymyriadau syml fel trenau beicio o blant yn beicio i’r ysgol o dan oruchwyliaeth oedolion, i ymyriadau aml-gydran mwy cymhleth fel prosiectau arddangos Sustrans sydd yn ymgorffori gwelliannau seilwaith a strategaethau newid ymddygiad sylweddol. Roedd newidiadau i seilwaith yn cynnwys gwelliannau i lwybrau beicio, gosod rheseli beiciau a mynedfeydd gwahanol i feicwyr a mynediad mwy diogel i feiciau yn yr ysgol. Roedd cydrannau newid ymddygiad yn cynnwys addysg diogelwch, newid y cwricwlwm, defnyddio offer dysgu, trefnu diwrnodau hyrwyddo a digwyddiadau hyrwyddo, a chynnig cymhellion i ddechrau beicio.

Ansawdd y dystiolaeth:
Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau o ansawdd cymedrol ac yn awgrymu bod ymyriadau o’r fath yn effeithiol yn cynyddu ymgymeriad beicio i’r ysgol ymysg plant oed ysgol. Fodd bynnag, dim ond y ddwy astudiaeth fwyaf diweddar oedd yn adrodd a oedd eu canfyddiadau yn arwyddocaol yn ystadegol. O’r rhain, canfu un astudiaeth gynnydd arwyddocaol yng nghanran gymedrig cymudo dyddiol i’r ysgol trwy feicio yn y grŵp ymyrraeth o’i gymharu â’r grŵp rheoli. Canfu’r ail nad oedd yr ymyrraeth yn cael unrhyw effaith arwyddocaol ar feicio i’r ysgol. Gallai archwiliad pellach o’r saith astudiaeth sydd yn weddill na wnaeth adrodd ar arwyddocâd roi mwy o sicrwydd o ran effaith yr ymyrraeth yma.

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd saith astudiaeth yn y DU, un yn UDA, ac un arall yng Ngwlad Belg. Felly, gallai’r ymyrraeth fod â chymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried archwiliad pellach sy’n benodol i gyd-destun.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen archwiliad pellach o’r sail dystiolaeth i roi mwy o sicrwydd o effeithiolrwydd yr ymyrraeth, neu ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr o’r effaith.