Ymyrraeth:Gwerthusodd deg astudiaeth (tair o ansawdd cymedrol a saith o ansawdd gwael) effeithiolrwydd ymyriadau sy’n sefydlu newid ymddygiad mewn cynlluniau teithio i’r ysgol trwy ddysgu ar draws y cwricwlwm. Roedd yr astudiaethau yn gweithredu strategaethau newid ymddygiad gydag addysg yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y rhain yn cynnwys hyfforddi athrawon i gynnal gwersi a gweithgareddau yn canolbwyntio ar fuddion iechyd gweithgaredd corfforol, ymwybyddiaeth amgylcheddol a hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd; pecynnau addysg i blant a’u rhieni; deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys gwefan ymgyrchu, taflenni ar fuddion cerdded/beicio, baneri, sticeri, tystysgrifau; yn ogystal ag addysgu hunan-fonitro, gosod nodau a sefydlu systemau cymorth cymdeithasol i fyfyrwyr.
Ansawdd y dystiolaeth:
Dangosodd yr astudiaethau effaith gyffredinol o blaid yr ymyrraeth; fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o ansawdd methodolegol gwael.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd pedair astudiaeth yn y DU, dwy yn Sbaen, ac un yn yr Almaen, Ffrainc, Awstralia a Brasil. Felly, gallai’r ymyrraeth fod â chymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried archwiliad pellach sy’n benodol i gyd-destun.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr o’r effaith.